Croeso
Croeso i Garboniadur Cymru. Bydd yn dangos ichi'ch ôl-troed carbon a'r newidiadau syml y gallwch eu gwneud i'ch bywyd i leihau'ch effaith ar yr hinsawdd.
Am weithredu?
Defnyddiwch y carboniadur i weld beth yw'ch ôl-troed carbon
Cyn ichi ddechrau
I fesur eich ôl-troed yn fanwl, byddai'r canlynol yn ddefnyddiol:
1. Eich biliau nwy a thrydan
2. Faint o filltiroedd rydych yn ei deithio yn eich car a sawl milltir y galwyn y mae'ch car yn ei wneud.
Ond peidiwch â phoeni, mae'n dal yn bosibl llenwi'r carboniadur hebddyn nhw. A ph'run bynnag, gallwch fynd yn ôl unrhyw bryd i ateb y cwestiynau'n fanylach.